Mae Parc Carafanau Marina Abertawe yn ardal breifat i barcio ynddi, ychydig funudau ar droed o draeth Abertawe. Mae canol dinas Abertawe dim ond 10 munud i ffwrdd.
Ein nod yw cynnig rhywle i gwsmeriaid fwynhau’r traeth, y parc, y marina a phopeth sydd gan ganol y ddinas i’w gynnig. Mae’r cyfleusterau ar y safle yn cynnwys y canlynol:
- Cyflenwadau trydan – cyflenwad drwy fesurydd
- Dŵr yfed – wedi’i gynnwys yn y pris
- Cyfleusterau cawod – wedi’u cynnwys yn y pris
- Wi-Fi – wedi’i gynnwys yn y pris
- Man Elsan – wedi’i gynnwys yn y pris
- Mannau ailgylchu – wedi’u cynnwys yn y pris
- Golchdy – golchwyr £2.50, sychwyr £2.50
Mae’r safle ar gael ar gyfer cartrefi modur a faniau gwersylla. Uchafswm maint y gilfach yw 8 metr x 2.75 metr.