Croeso i Farina Abertawe
Gobeithiwn y bydd yr wybodaeth yma yn rhoi’r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch ar gyfer arhosiad hir a phleserus yn Abertawe.
Gyda staff y marina’n gweithio’n galed i sicrhau bod eich arhosiad mor ddiffwdan â phosib, yr unig beth y mae’n rhaid i chi ei wneud yw eistedd i lawr, ymlacio a mwynhau’r cyfan sydd gan arfordir Abertawe a Phenrhyn Gŵyr i’w gynnig i chi.