Mae pecyn 28 niwrnod i ymwelwyr yn caniatáu i chi brynu cyfradd angori 4 wythnos ac osgoi talu cyfraddau dyddiol i ymwelwyr.
Ymwelwch â ni drwy gydol y flwyddyn hon a’r flwyddyn nesaf nes i chi ddefnyddio pob un o’ch 28 niwrnod.
Mae’r opsiwn hwn ar gyfer ymwelwyr sy’n hwylio i Abertawe bob blwyddyn ac yn aros am hyd at 14 diwrnod.
Enghraifft
Cyfraddau 2019 ar gyfer llong 10 metr
Ffi 1 noson i ymwelwyr £26.52 x 28 niwrnod = £742.56
Pecyn 28 niwrnod i ymwelwyr = £503.76
Defnyddiwch eich 28 niwrnod eleni a’r flwyddyn nesaf.
Ffoniwch ni ar 01792 470310 i gael rhagor o wybodaeth.