Gellir talu gyda’ch cerdyn credyd neu ddebyd. Dewiswch ‘Anfonebau’r Cyngor’ fel y math o dâl, nodwch eich rhif anfoneb a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn.
Mae gan y cyngor ganllaw talu i ateb eich cwestiynau a’ch helpu drwy’r broses.
Cliciwch yma i fynd yn syth i’r gwasanaeth taliadau ar-lein
Cliciwch yma i weld y canllawiau.
Pa gardiau credyd/debyd y gallaf eu defnyddio?
Rydym yn derbyn y cardiau debyd a chredyd canlynol yn unig:
- Visa
- Mastercard
- Maestro
- Electron
Diogelwch
Bydd ein cyfleuster talu ar-lein yn eich dargyfeirio at wefan ddiogel Civica, ein darparwr taliadau. Mae ein meddalwedd gweinydd diogel yn defnyddio cysylltiad SSL ac yn amgryptio’ch holl wybodaeth bersonol, gan gynnwys rhif eich cerdyn debyd neu gredyd, eich enw a’ch cyfeiriad. Mae’r broses amgryptio yn cymryd y nodau a deipiwch ac yn eu troi’n gôd a drosglwyddir yn ddiogel dros y rhyngrwyd.
Mae system talu ar-lein y cyngor hefyd yn cefnogi’r gwasanaeth MasterCard SecureCode® a Verified by Visa® 3D Secure i roi lefel ychwanegol o ddiogelwch wrth dalu ar-lein drwy’r rhyngrwyd.. I elwa o’r diogelwch ychwanegol hwn a gynigir gan y cynlluniau hyn, bydd angen i chi gofrestru gyda banc eich cerdyn talu.
Bydd defnyddwyr cofrestredig yn gweld sgrîn ychwanegol wrth dalu. Bydd y sgrîn yn gofyn cwestiynau diogelwch a fydd yn cadarnhau’r defnyddiwr cyn prosesu’r taliad.
Os nad ydych chi wedi cofrestru, efallai y gwahoddir chi i wneud hynny cyn parhau â’ch taliad (yn dibynnu ar eich cerdyn). Os nad ydych am gofrestru’ch cerdyn bryd hynny, byddwn yn prosesu’ch cais o hyd.
Cysylltwch â dosbarthwr eich cerdyn am fwy o fanylion am y gwasanaethau hyn a sut i gofrestru eich cerdyn â’ch cyfrinair.