HYSBYSIAD I FORWYR
Pan ail agorwyd ein lociau ym mis Mehefin, roeddem am sicrhau ein bod yn gallu rheoli’r lociau’n ddiogel gyda pherchnogion cychod drwy gadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol, sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel yn ystod y broses o ddefnyddio’r lociau a sicrhau na fyddai gormod yn ceisio defnyddio’r lociau ar yr un pryd.
Felly, cyflwynwyd system cadw lle a oedd yn cyfyngu pob loc i gychod 60 metr o hyd fesul loc. Yr wythnos ganlynol, cynyddwyd hynny i 70 metr ac wrth i bob wythnos fynd heibio, rydym wedi bod yn hyderus o ran cynyddu hyn ymhellach.
Rydym nawr mewn sefyllfa lle rydyn ni’n teimlo y gallwn ni dynnu’r system cadw lle a gall perchnogion cychod ein ffonio ni ar VHF pan maen nhw am ddod drwy’r loc.
Bydd meistr y loc nawr yn monitro nifer y cychod sy’n dod i mewn i bob loc a bydd yn penderfynu a yw’r loc yn rhy llawn neu beidio.
Bydd penderfyniad meistr y loc i gyfyngu ar nifer y cychod sy’n mynd i mewn i loc yn ystyried maint y cychod sydd eisoes yn y loc ynghyd â nifer y bobl sydd ar fwrdd pob cwch.
Credwn y bydd y newid hwn yn ei gwneud hi’n haws i chi drefnu eich taith.
Os nad ydych yn byw yn yr ardal leol ac mae angen i ni gael cip ar eich cychod ar eich rhan, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, ffoniwch ni ar 07584 491945.
Over the last few weeks we have been looking after the Marina and helping to support the local community by carrying out local deliveries and supporting food banks. You can see more of what we have been up to on our Facebook page.