Mae’r holl ddefnydd o’r marina yn amodol ar y rheolau hyn.
1. Ni chaniateir arwyddion Ar Werth ar longau na cheir pan maent ar dir Cyngor Dinas a Sir Abertawe (o hyn ymlaen y cyfeirir ato fel y Cyngor).
2. Mae’r Cyngor Dinesig yn darparu angorfeydd ar gyfer badau mordwyol yn unig. Ni chaniateir badau sy’n fwy na 21 metr o hyd yn gyffredinol neu 6 metr o led yn y Marina oni bai eu bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Gyngor Dinas Abertawe. Rhaid dangos enw’r iot fel ei fod yn weladwy o’r pontŵn y mae wedi’i glymu wrtho.
3. Ni chaniateir nofio yn y Marina. Dylai plant ifanc wisgo siacedi achub a rhaid bod oedolyn yn eu goruchwylio drwy’r amser.
4. Er hylendid, ni ddylid arllwys papur na deunydd solet o’r toiledau tra bydd llong yn y Marina.
5. Taliadau blwyddyn fydd y tâl safonol ar gyfer defnyddwyr preifat am bob metr o hyd yn gyffredinol, gan gynnwys yr holl ymestyniadau. Nid yw hwn yn cynnwys tollau harbwr, ffioedd Morglawdd Tawe na TAW, ac mae unrhyw gyfran o ddecimetr yn cyfrif fel decimetr, gydag isafswm tâl cyfwerth â 6.1metr. Mae tollau arbennig ar gyfer badau llydan megis catamaranau a defnyddwyr masnachol.
6. Bydd y Cyngor yn rhoi tri mis calendr o hysbysiad ysgrifenedig i ddeiliaid angorfeydd os nad ydynt yn bwriadu adnewyddu eu Cytundeb Trwydded Angorfa. Rhaid i ddeiliaid angorfeydd hysbysu’r Cyngor yn ysgrifenedig o leiaf tri mis ymlaen llaw os nad ydynt am adnewyddu eu Trwydded Angori am y cyfnod canlynol. Bydd methu â gwneud hyn yn golygu y bydd Deiliad yr Angorfa yn gyfrifol am ad-dalu’r Cyngor am unrhyw golledion ariannol mewn perthynas â refeniw angori.
7. Cyflenwir trydan ar gyfer dibenion annomestig am dâl penodol dyddiol, wythnosol neu flynyddol. Neu gellir darparu cyflenwad drwy fesurydd, a gellir prynu mesuryddion gan y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i fynnu darparu cyflenwad drwy fesurydd yn ôl ei ddisgresiwn. Mae rhestr taliadau ar gael yn swyddfa’r Marina. Cânt eu hadolygu o dro i dro yn ôl disgresiwn y Cyngor.
8. Wrth angori llong, bydd y Meistr Angori yn ceisio sicrhau, fel canllaw, bod y pontŵn angori o leiaf dri chwarter hyd cyffredinol y llong. Fodd bynnag, ni ellir addo’n bendant y bydd hyn yn bosib.
9. Ni all y Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, difrod nac oedi oherwydd nad yw’r llifddorau, neu’r Bont Droi neu lifddorau’r Tawe yn gweithredu.
10. Mae mynediad i’r Marina dros dir neu ddŵr yn cynnwys derbyn a chadw’r rheolau hyn, ac yn arbennig, rhestr daliadau gyhoeddedig y Cyngor, y dylid talu’r olaf a nodir ymlaen llaw. Bydd gan y Rheolwr yr hawl i weithredu yn ôl ei ddisgresiwn mewn perthynas â’r rheolau hyn.
AMODAU CYFFREDINOL CYMDEITHAS PORTHLADDOEDD IOTIAU (TYHA) A FFEDERASIWN MOROL PRYDAIN (BMIF) AR GYFER ANGORI, CLYMU A STORIO AR Y LAN
11. Yn yr amodau hyn, bydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn golygu’r Cyngor a/neu’r rheolwr y mae’r cais am angori yn cael ei gyflwyno iddo. ‘Dehonglir y Rheolwr fel rheolwr y Marina a bydd yn cynnwys unrhyw swyddog, gweithiwr neu asiant y Cyngor a awdurdodwyd gan y Cyngor i weithredu ar ran y rheolwr. Bydd y gair ‘Harbwr’ yn cynnwys Harbwr Iotiau, Marina, Angorfeydd neu unrhyw gyfleuster arall ar gyfer angori iot. Bydd y gair ‘Perchennog’ yn cynnwys Huriwr, Meistr neu Asiant neu berson arall sy’n gyfreithiol gyfrifol (ac eithrio’r Cyngor) am y llong neu’r cerbyd am y tro.
12. (a) Gall yr holl longau a cherbydau yn harbwr neu eiddo’r Cyngor gael eu symud gan y Cyngor i unrhyw ran arall o’r un harbwr neu eiddo.
(b) Ni fydd y Cyngor yn atebol, boed mewn contract, camwedd neu fel arall, am unrhyw golled neu gamwedd neu unrhyw ddifrod arall o unrhyw natur bynnag i unrhyw long neu gerbyd neu eiddo arall y perchennog neu eraill sy’n hawlio drwy’r perchennog, ac eithrio i’r graddau y gall colled, lladrad neu ddifrod o’r math gael eu hachosi gan esgeulustod neu weithred fwriadol y Cyngor neu’r rhai y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt.
(c) Bydd y Perchennog yn digolledu’r Cyngor yn erbyn yr holl golledion, difrod, costau, hawliau neu weithdrefnau a geir neu a gychwynnir yn erbyn y Cyngor neu ei weision neu asiantau, a all fod wedi’u hachosi gan long neu gerbyd y perchennog, ei weision, ei asiantau, ei griw, ei westeion neu is-gontractwyr ac eithrio i’r graddau y gall colled, difrod, costau, hawliau neu weithdrefnau o’r math gael eu hachosi gan esgeulustod neu weithred fwriadol y Cyngor neu’r rhai y mae’n gyfrifol amdanynt.
(d) Bydd gan y Perchennog yswiriant trydydd parti amdano’i hun a phob un o’i gerbydau neu longau, ei griw am y tro, a’i asiantau, ei ymwelwyr, ei westeion a’i is-gontractwyr am swm na fydd yn llai na £5,000,000 mewn perthynas â phob damwain neu ddifrod ac, mewn perthynas â phob llong, yswiriant achub digonol. Bydd yswiriant o’r fath yn cael ei weithredu a’i gadw mewn swyddfa yswiriant ag enw da, a bydd y Perchennog yn cyflwyno’r polisi neu’r polisïau perthnasol i’r Cyngor ar gais. Mae’r Cyngor yn argymell yswiriant Trydydd Parti o £5,000,000 o leiaf.
13. Ni fydd hawl gan y Perchennog ddefnyddio unrhyw ran o harbwr neu eiddo’r Cyngor, nac unrhyw long neu gerbyd sydd yno, at ddibenion masnachol.
14. Ni ellir byw’n barhaol ar longau, ond mae hyn yn amodol yn ôl disgresiwn y Cyngor / Rheolwr.
15. O fewn 7 niwrnod o werthu, trosglwyddo neu forgeisio unrhyw long sy’n amodol ar drwydded gyfredol a roddir i’r perchennog gan y Cyngor, ac yn amodol ar yr amodau hyn, bydd y perchennog yn hysbysu’r Cyngor am enw a chyfeiriad y prynwr, y trosglwyddai neu’r morgais fel y bo’n briodol.
16. (a) Yn amodol ar is-baragraff (b) o baragraff 16 y Rheolau hyn, ni ddylid cyflawni unrhyw waith ar y llong pan fydd yn harbwr, eiddo neu angorfeydd y Cyngor (oni bai y cafwyd caniatâd ysgrifenedig y rheolwr) heblaw am atgyweiriadau bach cyson neu waith cynnal a chadw arferol gan y perchennog, ei griw rheolaidd neu aelodau o’i deulu, a heb achosi niwsans nac anghyfleustra i unrhyw bobl eraill sy’n defnyddio harbwr, eiddo neu angorfeydd y Cyngor, nac unrhyw berson arall sy’n byw yn y cyffiniau.
(b) Ni fydd caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw ar gyfer gwaith i’w gyflawni yn eiddo, harbwr neu angorfeydd y Cyngor yn cael ei wrthod yn yr amgylchiadau canlynol oni bai bod rheswm da:
(i) Pan fydd y gwaith i’w gyflawni yn waith y byddai’r Cyngor, ei ddeiliaid hawl neu’r rhai sydd fel arfer yn cyflawni gwaith ar ei ran, fel arfer yn cyflogi is-gontractwr arbenigol ar ei gyfer, neu
(ii) Lle mae’r Cyngor yn fodlon bod yr holl waith yn waith adfer ac nid yn waith trin, ac yn cael ei gyflawni dan warant gan y gwneuthurwr a/neu gyflenwr y llong neu unrhyw ran o’r cyfarpar y mae’r warant yn ymwneud ag ef.
(iii) Os yw’r cyngor wedi neilltuo ardal o’r harbwr neu’r angorfa lle gall perchenogion gyflawni gwaith ar eu llongau, a’r gwaith y ceisir caniatâd ar ei gyfer yn gyfyngedig i’r ardal honno ac nid yw’r gwaith i’w gyflawni mewn dull a waherddir o dan y Rheoliadau am y tro a wnaed gan y Cyngor ynghylch hynny.
17. Mae gan y cyngor yr hawl i arfer hawlrwym cyffredinol ar unrhyw long a/neu eiddo arall perchennog y llong tra bod y rhain yn harbwr neu eiddo’r Cyngor hyd nes y bydd unrhyw arian sy’n ddyledus i’r Cyngor mewn perthynas â’r llong a/neu eiddo arall o’r math, boed oherwydd taliadau rhent, storio, comisiwn, mynediad neu angori, a’r gwaith a wnaed neu beidio, yn cael ei dalu.
(a) Mae’r rheolwr yn cadw’r hawl i wrthod cyflwyno Trwydded Angori i unrhyw berchennog llong sydd bob amser yn cydymffurfio â holl gyfarwyddiadau a cheisiadau rhesymol y rheolwr.
(b) Bydd gan y Cyngor yr hawl (heb effeithio ar unrhyw hawliau eraill) mewn perthynas â thorri’r amodau hyn gan y perchennog yn y modd canlynol os digwydd i’r perchennog dorri unrhyw amod neu os bydd y perchennog yn methu â gwneud unrhyw daliadau sy’n ddyledus i’r cyngor. Os gellir cywiro’r tor-amod hwn neu os yw’r perchennog wedi methu â gwneud taliad o’r fath, gall y Cyngor gyflwyno rhybudd i’r perchennog yn nodi’r tor-amod neu’r methiant i dalu, a bydd gofyn iddo gywiro’r tor-contract neu dalu’r swm sy’n ddyledus o fewn 14 niwrnod. Os yw’r perchennog yn methu â chywiro’r tor-amod neu dalu’r swm o fewn 14 niwrnod, neu os nad yw’n bosib cywiro’r tor-amod, gall y Cyngor gyflwyno rhybudd i’r perchennog sy’n nodi’r tor-amod neu’r methiant i dalu (os nad yw eisoes wedi’i nodi) a bydd yn ofynnol iddo symud ei long o fewn 28 diwrnod, ac ar ddiwedd y cyfnod hwn, rhaid i’r perchennog symud y llong, ac unrhyw eiddo arall y mae’n berchen arno, o harbwr ac eiddo’r Cyngor. Gall y Cyngor ad-dalu’r gyfran o’r ffi drwyddedu sydd heb ddod i ben i’r perchennog (gan ddiystyru unrhyw ddisgownt a roddwyd) yn amodol ar yr hawl a osodwyd mewn perthynas ag unrhyw ddifrod a ddioddefwyd ganddo a/neu unrhyw arian sy’n ddyledus o ganlyniad i unrhyw un o’r materion sy’n rhoi’r hawl i’r Cyngor derfynu’r drwydded.
(c) Os na chytunwyd ar ddyddiad terfynu rhwng y partïon yn ysgrifenedig, gall y Cyngor neu’r perchennog derfynu’r drwydded a roddwyd i’r perchennog drwy roi 28 diwrnod o rybudd i’r llall o derfyniad o’r fath, a phan ddaw hwn i ben, bydd y perchennog yn symud y llong o harbwr ac eiddo’r Cyngor.
(d) Os yw’r perchennog yn methu â symud y llong pan ddaw’r drwydded i ben (boed o dan yr amod hwn neu beidio), bydd hawl gan y Cyngor i:
(i) Godi rhent ar y perchennog a fyddai wedi bod yn daladwy gan y perchennog i’r Cyngor os nad oedd y drwydded wedi’i derfynu, am y cyfnod rhwng terfynu’r drwydded a symud y llong o’i harbwr a’i eiddo a/neu
(ii) ar gyfrifoldeb y perchennog (ac eithrio mewn perthynas â cholled neu ddifrod a achosir gan esgeulustod y Cyngor yn ystod gwaith symud o’r fath) i symud y llong o’r harbwr a’r eiddo, ac ar hynny, ei ddiogelu rhywle arall a chodi tâl ar y perchennog am yr holl gostau a geir yn sgîl y symud hwn gan gynnwys ffioedd angori eraill.
18. Ym mhob achos lle gall contract llogi neu drwydded i ddefnyddio unrhyw fan clymu, angorfa, lle storio neu gyfleusterau gael ei derfynu’n gyfreithiol drwy rybudd. Ystyrir bod y rhybudd wedi’i roi’n gyfreithiol os yw wedi’i gyflwyno’n bersonol i’r perchennog neu wedi’i anfon drwy’r post cofrestredig neu wasanaeth danfoniad cofnodedig i gyfeiriad hysbys diwethaf y perchennog yn y Deyrnas Unedig neu i brif fusnes y Cyngor.
19. Caiff llongau a storir ar gyfraddau tymhorol ar y lan neu mewn angorfeydd llaid eu lansio neu eu bwrw i’r dŵr cyn agosed at ddiwedd y cyfnod tymhorol ag y mae amodau’r llanw a’r tywydd a’r cyfleusterau sydd ar gael yn eu caniatáu, ym marn y Cyngor, ac mewn trefn sy’n manteisio i’r eithaf ar symud llongau i’r perwyl hwn a hefyd i wneud y defnydd mwyaf economaidd o’r cyfleusterau sydd ar gael i’r Cyngor.
20. Mae unrhyw long neu nwyddau eraill sy’n cael eu gadael yn harbwr neu eiddo’r cyngor yn amodol ar ddarpariaethau Deddf Camweddau (Camymyrraeth â Nwyddau) 1977, sy’n rhoi hawl gwerthu i’r Cyngor, fel derbyniwr, y gellir ei arfer mewn rhai amgylchiadau. Ni fydd gwerthiant o’r fath yn digwydd nes bod y Cyngor wedi rhoi rhybudd i’r perchennog neu wedi cymryd camau rhesymol i’w ganfod yn unol â’r Ddeddf. Ceir hawl gwerthu tebyg pan fydd unrhyw long neu nwyddau eraill nad yw’r Cyngor yn dderbyniwr iddynt, yn cael eu gadael yn harbwr neu eiddo’r Cyngor.
Mae unrhyw rwymedigaeth sydd gan y Cyngor tuag at longau neu nwyddau a adewir yn yr harbwr neu’r eiddo yn dod i ben pan fydd y grant i’r perchennog am y cyfleusterau mewn perthynas â llong neu nwyddau o’r math yn dod i ben neu’n terfynu’n gyfreithiol, ac nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i unrhyw longau neu nwyddau a adewir yn ei harbwr neu eiddo heb ei ganiatâd, ac eithrio os bydd unrhyw golled neu ddifrod wedi’i achosi gan esgeulustod y Cyngor neu gan rai y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt.
21. Os yw’r cyngor o’r farn bod hyn yn angenrheidiol er diogelwch y llong neu ddiogelwch defnyddwyr eraill yr harbwr neu eiddo neu ar gyfer eu llongau neu er diogelwch harbwr, eiddo, peiriannau neu gyfarpar y cyngor, bydd gan y cyngor yr hawl i angori, ailangori, symud, byrddio, mynd i mewn neu gynnal unrhyw waith brys ar y llong ac eithrio i’r graddau y mae angori, ailangori, byrddio, mynd i mewn i neu waith brys o’r fath yn codi o esgeulustod y cyngor neu’r rhai y mae’r cyngor yn gyfrifol, amdanynt, y perchennog felly fydd yn talu taliadau rhesymol y cyngor.
22. Oni bai bod ganddo ganiatâd y rheolwr ymlaen llaw, ni fydd y perchennog yn rhoi benthyg nac yn trosglwyddo’r angorfa, ac ni fydd chwaith yn defnyddio’r angorfa ar gyfer unrhyw long arall. I osgoi amheuaeth, mae trwydded a roddir o dan y rheolau hyn yn bersonol i’r trwyddedai ac nid yw’n drosglwyddadwy. Os bydd y perchennog yn hysbysu’r Cyngor yn ysgrifenedig y bydd y llong i ffwrdd o’r harbwr a’r eiddo am 28 diwrnod neu fwy ac mae’r Cyngor yn gallu ail-drwyddedu’r angorfa y mae llong y perchennog fel arfer yn ei feddiannu, yn barhaol am gyfnod neu gyfnodau heb fod yn llai na 28 diwrnod yr un, bydd y Cyngor yn talu heb fod yn llai na thraean o incwm y drwydded i’r perchennog a dderbyniwyd ar gyfer cyfnod o’r fath.
23. Bydd llongau’n cael eu hangori neu eu clymu gan y perchennog yn y ffordd a’r safle sy’n ofynnol gan y Cyngor ac oni bai y cytunwyd fel arall, darperir y rhaffau a’r clustogau gan y perchennog.
24. Ni fydd unrhyw beth yn y drwydded yn rhoi hawl i berchennog gael defnydd unigryw o angorfa benodol.
25. Caiff angorfeydd (gan gynnwys y rhai lle ceir llongau eisoes, yn harbwr neu eiddo’r Cyngor neu’i gyfleusterau ar gyfer eu trin, eu harchwilio neu eu hatgyweirio) eu trwyddedu am y cyfnodau a gaiff eu cyhoeddi o bryd i’w gilydd gan y Cyngor yn ei harbwr neu eiddo, a chyfrifir taliadau felly drwy gyfeirio at restr daliadau gyhoeddedig y Cyngor sydd mewn grym ar ddechrau cyfnod y drwydded.
26. Mae’r sawl sy’n defnyddio unrhyw ran o harbwr, eiddo neu gyfleusterau’r Cyngor am ba ddiben bynnag, a boed drwy wahoddiad neu fel arall, yn gwneud hynny ar ei gyfrifoldeb ei hun, oni bai bod unrhyw niwed neu ddifrod i berson neu eiddo a geir yn harbwr, eiddo neu gyfleusterau’r Cyngor wedi’i achosi gan, neu o ganlyniad i, esgeulustod neu weithred fwriadol y Cyngor neu’r rhai y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt.
27. Ni chaiff unrhyw long, wrth ddod i mewn i’r harbwr neu ei adael neu symud i mewn iddo, gael ei lywio yn y fath ffordd neu ar y fath gyflymdra i beryglu neu beri anghyfleustra i longau eraill yn yr harbwr. Mae llongau bob amser yn destun cyfyngiadau cyflymdra ac is-ddeddfau awdurdodau’r Harbwr, yr awdurdodau Mordwyo ac awdurdodau eraill.
28. Ni fydd unrhyw beiriannau na chyfarpar neu beirianwaith swnllyd, gwenwynig neu annymunol yn cael eu gweithredu yn yr harbwr na’r eiddo a fyddai’n achosi niwsans neu ddiflastod i’r Cyngor, i unrhyw ddefnyddwyr eraill yn y cyffiniau, ac mae’r perchennog ei hun yn sicrhau nad yw ei westeion a’r holl bobl sy’n defnyddio ei long yn ymddwyn mewn ffordd sy’n tramgwyddo, fel y nodwyd uchod. Caiff rhaffau Haylard eu clymu er mwyn sicrhau nad ydynt yn achosi niwsans neu ddiflastod.
29. Ni chaiff sbwriel ei daflu i’r dŵr neu ei adael ar y pontynau, y glanfeydd na’r meysydd parcio, na’i waredu mewn unrhyw ffordd arall ac eithrio yn y cynhwysyddion a ddarperir gan y Cyngor neu drwy eu symud o harbwr ac eiddo’r cyngor.
30. Caiff dingis, llongau tendio a rafftiau eu storio ar fwrdd y llong oni bai bod angorfa ar wahân yn cael ei darparu gan y Cyngor.
31. Mae’n rhaid i berchnogion a’u criw barcio eu cerbydau yn y modd a’r safle y mae’r Cyngor yn eu cyfarwyddo i wneud o bryd i’w gilydd.
32. Ni chaiff eitemau cychod, gêr, mân daclau neu gyfarpar, cyflenwadau, storfeydd neu bethau tebyg, eu gadael ar y pontynau, y glanfeydd na’r meysydd parcio.
33. Bydd y perchennog yn cymryd pob gofal posib rhag cychwyn tân yn neu ar ei long a bydd y perchennog yn dilyn yr holl reoliadau statudol a lleol mewn perthynas ag atal tân (os oes rhai) a fydd yn cael eu harddangos yn swyddfeydd y Cyngor. Bydd y perchennog yn darparu a chadw o leiaf un diffoddiadur tân safon BSI mewn maint a math a gymeradwywyd gan y llywodraeth yn y llong neu arni, i’w ddefnyddio ar unwaith pan fydd tân. Ni chaiff perchnogion ail-lenwi eu llong â thanwydd yn yr harbwr heblaw am yn angorfa ail-lenwi’r Cyngor.
34. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i gyflwyno rheoliadau sy’n ymwneud yn unig â gweinyddiaeth harbwr ac eiddo’r Cyngor, ac nad ydynt yn anghyson â’r amodau hyn, ac i ddiwygio’r rheoliadau hyn o bryd i’w gilydd. Daw rheoliadau ac unrhyw ddiwygiadau o’r math i rym wrth iddynt gael eu harddangos ar hysbysfwrdd cyhoeddus y Cyngor neu le amlwg arall ar eiddo’r cyngor, a bydd gan y Cyngor yr un hawliau yn erbyn y perchennog am dorri’r rheoliadau ag sydd ganddo am unrhyw dor-amod. Bydd unrhyw gwestiynau’n ymwneud â dehongli’r rheolau, y rheoliadau a’r amodau hyn yn cael eu penderfynu gan y Cyngor, a bydd ei benderfyniad yn derfynol.
35. Tynnir sylw at Is-ddeddfau’r Cyngor ynghyd ag unrhyw is-ddeddfau eraill awdurdod yr harbwr, yr awdurdod mordwyo neu awdurdodau eraill sy’n ymwneud â defnyddio’r Marina hwn.
36. Gall Rheolwr y Marina ateb unrhyw ymholiadau neu roi mwy o wybodaeth ynghylch y rheolau hyn.